Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.  Bydd y rhan fwyaf ohonom wedi gwneud ein haddunedau am y flwyddyn, a bydd llawer wedi cael eu torri erbyn hyn mae’n siwr.  Dyma rai syniadau am gwneud Detox ariannol ar gychwyn y flwyddyn.

Awgrymaf bo pawb yn gwneud crynodeb o’u buddsoddiadau, gan gynnwys cyfrifon pensiynau i’r rhai sydd heb ymddeol.   Efallai byddwch yn darganfod rhai buddsoddiadau neu bensiynau yr oeddech wedi anghofio amdanynt.

Wedi gwneud y rhestr, sawl buddsoddiad sydd gennych?  Fel rheol bys bawd, os oes gennych mwy na deg buddsoddiad gwahanol mae angen cyfyngu rhain i nifer sydd yn haws i’w rheoli.

Gyda graddfeydd llog wedi codi, mae sawl cyfrif yn cynnig 1.2% - 1.5% ar arian yn y banc ac fe ddylech symud eich arian os yw’n derbyn llog isel iawn ar hen gyfrifon.

Os oes gennych forgais, pa raddfa llog ydych yn talu?  Yn fras gallwch gael morgais @ tua 2% dros 2 flynedd.  Ble mae angen ail forgeisi, ewch am gyfrif lle nad ydych yn talu unrhyw fath o ffi am drefnu’r morgais, oherwydd mae’r ffioedd hyn yn amal yn gost fawr.

Dadansoddwch eich datganiadau banc (ac mae’n syndod faint o bobol sydd ddim yn gwneud hyn!) a gwnewch restr o’ch taliadau misol.  Lle nad oes angen gwneud rhai o’r taliadau misol gallwch arbed arian am weddill y flwyddyn.

Gwnewch ewyllys os nad oes un gennych, neu os ydych wedi gwneud ewyllys, edrychwch ar y cymalau i sicrhau bod y rhain yn unol gyda’ch dymuniadau presennol.  Ar yr un pryd, ystyriwch eich sefyllfa ynglyn â Threth Etfieddiaeth, gyda rheolau newydd am gartrefi wedi codi y swm gellir gadael yn ddi dreth lle mae’r eiddo yn mynd yn syth i’r plant a’r wyrion.

Mae Huw yn gyfrifydd hunan gyflogedig yn cynnig gwasanaeth ar dreth incwm, ewyllysiau a gwaith probate.  Cysylltwch ar 029 2069 4524 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os ydych eisiau trafod unrhyw fater.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17