Gyda’r gwanwyn yn dod, tri peth go wahanol i’w ystyried yn y golofn.

Ym mis Ebrill bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cychwyn.  I ddechrau bydd dau dreth newydd.  Yn lle y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi, bydd Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi yn cael eu casglu.  Yn fras bydd mwy o dreth i’w dalu ar dai sydd yn costu dros £400,000.  Ym mis Ebrill 2019 disgwylir bydd treth incwm yn cael ei ddatganoli'n rhannol.

Canllawiau i drefnu Profiant (Probate).  Ar ôl marwolaeth annwylyn, mae llawer o waith papur i’w wneud ac yn y rhan helaeth o achosion, bydd angen anfon ffurflen Profiant i gwblhau gwaith ar ystad.  

Y rhan gyntaf o’r gwaith yw gwneud rhestr o asedion a dyledion yr unigolyn a bydd angen cysylltu gyda’r holl cwmniau i gael manylion o fuddsoddiadau a dyledion a’u gwerth ar ddyddiad y marwolaeth.

Pan mae’r wybodaeth ar gael, yr ail ran o’r gwaith yw cwblhau y ffurflen Profiant ac hefyd ffurflen Treth Etifeddiaeth, hyd yn oed os nad oes angen talu Treth Etifeddiaeth.  Fe ddylai’r Grant o Brofiant gael ei gyhoeddi o fewn tua 6 wythnos.  Gyda’r Grant byddwch yn gallu trosglwyddo a gwerthu’r eiddo a dosbarthu yr ystad yn unol â gofynion yr ewyllys.

Gobeithio bydd pawb wedi cadw bant o Bitcoin.  Yr unigolion sydd yn rhoi arian i mewn yn olaf i gynllun pyramid / bwrlwm sydd yn colli mwyaf.

Mae Huw yn gyfrifydd hunan gyflogedig yn cynnig gwasanaeth ar dreth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.  Cysylltwch ar 029 2069 4524 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os ydych eisiau trafod unrhyw fater.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17