Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd, tri peth gwahanol i’w hystyried yn y golofn.

Newidiadau Treth Incwm

Ar 6 Ebrill 2018 mae’r flwyddyn dreth newydd yn cychwyn.  Bydd eich lwfans personol yn codi i £11,850 a bydd unigolyn yn talu treth incwm @ 40% pan yn ennill dros £46,350.  Bydd y lwfans di-dreth ar incwm o dividend yn lleihau o £5,000 i £2,000.  I unigolion gyda incwm o eiddo sydd yn talu treth incwm @ 40% bydd y canran o log y gallwch hawlio ar forgeisi yn lleihau.

Canllawiau am Bwer Twrnai (Power of Attorney).

Mae unigolyn yn gallu penderfynnu pwy sydd i edrych ar ei hôl os oes salwch yn dod.  Gall hyn ddechrau yn syth neu yn hwyrach pan mae gallu’r unigolyn yn lleihau.  Mae dau fath o bwer twrnai :

Ariannol : Bydd eich twrnai yn edrych ar ôl eich arian / buddsoddiadau / eich cartref.  Gall eich twrnai fod yn aelod o’r teulu, ffrind agos neu weithiwr proffesiynnol.  Gallwch gael mwy nag un twrnai.

Iechyd a Gofal : Bydd gan eich twrnai yr hawl i wneud penderfyniadau ar eich rhan a gall fod yn aelod o’r teulu neu’n ffrind agos.

A oes gennych I-Phone?

Os felly efallai byddwch wedi derbyn neges destun honiedig wrth Apple yn dweud “bod eich Apple ID yn mynd i orffen heddiw”.  Scam sydd yn edrych yn synhwyrol yw’r neges.  Ni ddylid ymateb.  Yn yr un modd anwybyddwch negeseuon sy’n honni i fod o’r Swyddfa Dreth yn cynnig ad-daliad.

Mae Huw yn gyfrifydd hunan gyflogedig yn cynnig gwasanaeth ar dreth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.  Cysylltwch ar 029 2069 4524 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os ydych eisiau trafod unrhyw fater.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17