Croeso i’r golofn gyntaf ar faterion ariannol.  Byddaf yn ysgrifennu am un prif bwnc bob mis ac hefyd bydd cwpwl o bwyntiau bach i ystyried.

Mae Treth Etifeddiaeth yn daladwy ar ystad lle mae’r gwerth yn fwy na’r lwfans personol, £325,000 i unigolyn, £650,000 i bâr priod.

O 6 Ebrill 2017 ymlaen mae lwfans ychwanegol newydd ar gael a elwir y “New Residence Nil Rate Band” ar eich cartref, sydd yn werth £100,000 am unigolyn, £200,000 am bâr priod.  Oherwydd hyn gall unigolyn adael £425,000 a phâr priod £850,000 cyn dechrau talu Treth Etfeddiaeth.

Mae sawl ewyllys yn cynnwys rhyw fath o ymddiriedolaeth (Trust) ac mae angen edrych yn fanwl ar amodau’r ewyllys, gan nad yw’r lwfans newydd ar gael mewn amgylchiadau ble mae’r cartref ddim yn mynd yn syth i’r teulu agos iawn.

Gall y lwfans newydd arbed i fyny at £80,000 (£200,000 @ 40%) o dreth etifeddiaeth, sydd yn swm sylweddol, ond i dderbyn y lwfans newydd, mae’n rhaid i’r cartref gael ei adael i blant neu wyrion ac mae’r amodau yn gyfyng am hyn.

Cyngor y Cyfrifydd

Os nad ydych wedi cychwyn pensiwn y wladwriaeth mae’n synhwyrol i gael amcangyfrif o’r swm y byddwch yn derbyn pan yn ymddeol.  Cysylltwch gyda’r llinell gymorth Gymraeg ar 0800 731 7936.

Mae scams yn rhan o fywyd heddiw – peidiwch â ymateb i alwadau ffôn neu E Byst, efallai o HMRC neu Trwyddedu Teledu sydd yn dweud bod ad-daliad yn ddyledus i chi – angen eich manylion banc mae’r twyllwyr.  

Mae Huw yn drysorydd anrhydeddus Y Dinesydd ac yn gyfrifydd hunan gyflogedig yn cynnig gwasanaeth ar dreth incwm, ewyllysiau a gwaith “probate”.  Cysylltwch ar 029 2069 4524 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os ydych eisiau trafod unrhyw fater.

 

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17