Bwyddyn Treth Newydd o 6 Ebrill 2018

Newyddion da wrth Llywodraeth Cymru.  Pan mae unigolyn yn mynd i gartref preswyl i fyw mae’r swm y gellir ei gadw wedi codi o £30,000 i £40,000.

Newyddion da hefyd am y “Residence Nil Rate Band” gyda Threth Etifeddiaeth.  Eich lwfans personol yw £325,000 a £650,000 i bâr priod.  Mae’r lwfans uchod yn werth £125,000 ychwanegol a £250,000 am bâr priod.  Golyga hyn y gall unigolyn adael £450,000 a phâr priod £900,000 cyn dechrau talu Treth Etfeddiaeth.   Gall y lwfans newydd arbed i fyny at £50,000 o dreth i unigolyn a £100,000 i bâr priod.

Newyddion drwg i unigolion sydd yn derbyn incwm dividend gyda’r lwfans yn gostwng o £5,000 i £2,000, i unigolion gyda incwm o eiddo a morgeisi sydd yn talu treth @ 40% ac i gyrrwyr ceir cwmni.

Morgeisi “Equity Release”

Mae rhain yn gallu bod yn fanteisiol i bobol sydd â cartref gwerthfawr ond heb lawer o arian yn y banc.  Ond mae’r gost yngallu bod yn drwm.  Ystyriwch yn fanwl cyn dechrau cynllun newydd.

Pensiynau

I’r rhai sydd heb ymddeol a ydych yn gwybod pa bensiynau sydd gyda chi?  Gwnewch grynodeb o ble yr ydych wedi gweithio a pa gyfraniadau a wnaethpwyd.  Mae’n syndod faint o bensiynau sydd yn cael eu anghofio dros y blynyddoedd oherwydd prysurdeb bywyd.

Os ydych wedi ymddeol, cadarnhewch eich bod yn cael eich pensiynau yn rheolaidd.  O bryd i’w gilydd fe all cwmniau orffen gwneud taliadau oherwydd camgymeriadau / diffyg atebion i lythyron / newid cyfeiriad.

Mae Huw yn gyfrifydd yn arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.  Cysylltwch ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

029 2069 4524 neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17