Adolygwch eich incwm am 2017-2018

Erbyn hyn bydd y rhan fwyaf o ni wedi derbyn ffurflenni P60 am gyflogau / pensiynau am y flwyddyn dreth i 5 Ebrill 2018.  Hyd yn oed os nad ydych yn gorfod cwblhau ffurflen dreth mae’n werth adolygu’r ffigyrau i sicrhau nad ydych wedi gor-dalu neu tan-dalu eich treth incwm.  Mae camgymeriadau yn gallu digwydd, yn enwedig ble mae newidiadau i’ch sefyllfa deuluol neu ble mae unigolyn yn derbyn incwm o fwy nag un ffynnhonell.

 

Lwfansau treth newydd am 2018-2019

Gyda cychwyniad blwyddyn ariannol newydd mae lwfansau treth ar gael am 2018-2019, gan gynnwys £20,00 i fuddsoddi mewn ISA, i fyny @ £40,000 i’w dalu i fewn i gynllun pensiwn, rhoddion o £3,000 i leihau Treth Etifeddiaeth a lwfansau am brynu asedion newydd i fusnesau.

 

Sicrhad i Ysgyturion Ewyllys

Ar ôl marwolaeth annwylyn, ac ar ôl i’r ewyllys cael ei brofi ac i Brofiant gael ei gyhoeddi, y dasg olaf yw i dalu allan yr ystad yn union a gofynion yr ewyllys.  Ble mae’r ystad yn syml ac asedion yn mynd i’r teulu agos iawn, nid oes angen poeni mwyach.

Ond gyda ystadoedd ble mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth ac efallai yn ddadleuol mae angen sicrhad ar yr ysgutorion na fydd neb yn ceisio cael arian ar ôl gwneud y taliadau olaf.  Gellir sicrhau hyn trwy wneud cyhoeddiad mewn papur o enw’r Gazette a rhoi gwybodaeth mewn papur lleol.  Os nad oes ymateb o fewn 2 fis ac un diwrnod o’r cyhoeddiad fe gellir talu allan yr asedion heb boeni ymhellach.

Mae Huw yn gyfrifydd yn arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.  Cysylltwch ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

029 2069 4524 neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17