Yn ystod mis Medi bydd nifer ohonoch wedi derbyn galwadau scam yn dweud bod angen talu arian ar frys i’r Swyddfa Dreth ac yn bygwth chi gyda achosiadau llys neu ymweliad wrth yr heddlu.  Mae hwn yn Scam creulon iawn ac mae wedi codi ofn a phryder i nifer o unigolion.  Os ydych yn derbyn galwad annisgwyl rhowch y ffôn i lawr.  Sicrhewch bod eich ffrindiau a’ch teulu yn ymwybodol o’r scam hyn ac yn gwybod sut i ymateb.

Pan ydych yn derbyn llythyr wrth eich cwmni yswiriant am adnewyddu’r yswiriant peidiwch a’i dalu yn syth.  Ewch i wefan fel comparethemarket.com i gael ffigyrau am yswiriant tebyg.  Yn amal gallwch gael yr un yswiriant wrth yr un cwmni (!) tipyn rhatach.  Arbediais £100 ar fy yswiriant modur a £80 o yswiriant cartref fy nhad  trwy wneud hyn.

Gyda thai newydd yn cael eu hadeiladu ar draws Caerdydd bydd sawl un ohonoch neu eich teulu yn ystyried symud.  Mae llawer o dai newydd yn cael eu werthu yn “leasehold” dim “freehold”.  Edrychwch yn fanwl ar yr amodau, oherwydd fe all Rhent Tir godi yn sylweddol dros y blynyddoedd.  Mae hyn yn gallu gwneud hi yn fwy anodd i gael morgais ac achosu pryderon yn y blynyddoedd i ddod.  I’r rhai sydd yn gwerthu cartref “leasehold” mae yn gallu bod yn mwy anodd i’w werthu ac efallai bydd angen gostwng y pris.

 

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.  Cysylltwch ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

029 2069 4524 neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17