Erbyn hyn yr wyf wedi cwblhau nifer o ffurflenni treth incwm am 2017-2018.  Mae’r Swyddfa Dreth yn anffodus wedi gwneud llawer o gamgymeriadau gyda threthi côd unigolion sydd wedi arwain at sawl tan-daliad sylweddol o dreth incwm.  Cadwch lygad ar unrhyw lythyron côd treth a dderbynir, yn enwedig os yr ydych yn derbyn incwm o sawl ffynhonnell, os oes gennych gar cwmni neu os yw eich sefyllfa bersonol wedi newid yn ddiweddar.

Os ydych wedi colli ewyllys perthynas neu angen gwybodaeth am ewyllysiau ble mae ‘probate’ wedi ei gofrestru, ewch i google a teipiwch www.gov.uk/wills-probate-inheritance/searching-for-probate-records, a gyda’r enw llawn a dyddiad marwolaeth am ffi o £10 gallwch gael copi o’r datganiad ‘Probate’ a’r ewyllys.

Gofynnwch i Huw : Dyma ran newydd o’r golofn a’r cwestiwn cyntaf yw “Mae fy ngwr yn cadw papurau ariannol di-ri, rhai am dros 20 mlynedd.  Am ba hyd mae angen cadw gohebiaeth o’r Swyddfa Dreth?”  Canllaw y Swyddfa Dreth yw ei bod yn gallu edrych yn ôl dros gyfnod o 6 mlynedd am ymddygiad esgeulus.  Felly gallwch gael gwared ar bopeth cyn 5 Ebrill 2012.  Mwynhewch shredio!

 

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17