Trwy aros o fewn y rheolau safiodd y diweddar Tony Benn a’i deulu £200,000 o dreth etifeddiaeth.  Yr oedd yn ddiarydd ac fe roddodd ei archif i’r wlad.  Fel rhodd i’r wlad gwerth £500,000 nid oedd angen talu treth etifeddiaeth.  Y neges wrth y sosialydd mawr yw bod canllawiau cyfreithlon a chynllunio ymlaen yn medru safio Treth Etifeddiaeth.

Os oes gennych gwmni llwyddiannus neu gapel / elusen gefnog gallwch cynyddu symiau mawr o arian.  Nid yw’r banciau yn cynnig braidd dim o lôg ond mae sefydliadau eraill fel Virgin Money / Nationwide yn cynnig lôg o dros 1% - £1,000 yn ychwanegol ar £100,000 oFbuddsoddiad.

Gofynnwch i Huw : Pryd fydd angen Profiant (Probate) ar y farwolaeth gyntaf o bâr priod?  Mae’r aelwyd yn enw’r ddau briod.

Bydd eiddo asedion ar y cyd (Cartref / cyfrifon banc yn enw’r ddau) yn mynd i’r priod o dan rheolau “survivorship” heb angen Probate.

Ond ble mae asedion o dan un enw bydd rhai cwmnioedd ariannol angen Probate.  Mae’r symiau yn amrywio, £10,000 i un cwmni, efallai £20,000 i cwmni arall.

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17