Gyda’r Gwanwyn yma, mae blwyddyn dreth newydd wedi cychwyn ar 6 Ebrill 2019.  Mae’r lwfans personol yn codi o £11,850 i £12,500 gyda’r man cychwyn talu treth @ 40% yn codi o £46,350 i £50,000.  Bydd y mwyafrif o drethdalwyr yn derbyn £130 ychwanegol, gyda £860 i’r rhai sydd yn talu treth @ 40%.

Os ydych yn perchen ar fflat, neu gyda pherthnasau mewn oedran sydd wedi perchen ei fflat am nifer fawr o flynyddoedd, cymerwch sylw ar hyd y lês.  Os oes llai na rhyw 70 o blynyddoedd ar ôl, estynnwch y lês neu byddwch yn cael problemau sylweddol pan mae’r amser yn dod i werthu’r flat.

Gofynnwch i Huw : Hoffwn brynu ail dy fel buddsoddiad.  Gallaf roi swm sylweddol lawr ond mae angen tua £25,000 dros 5 mlynedd.

Gallwch edrych ar ail-forgeisi eich cartref os oes gennych forgais isel; neu ystyried morgais “Buy to Let” ond bydd costau ychwanegol gyda’r morgeisi hyn.  Ystyriwch yn lle fenthyciad syml o gwmni fel Tesco i fyny @ £25,000 gyda llog @ 3% a dim costau ychwanegol a gweinyddiaeth syml.  Gall hyn hefyd bod yn fanteisiol am welliannau i’r cartref, benthyciad modur ayb.

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17