Pan yn adnewyddu eich trydan / nwy / yswiriant modur neu cartref ewch ar lein i gymharu costau.  Yn aml iawn gallwch arbed arian ac efallai gyda’r un cwmni ble mae eich yswiriant presennol!

Hyd yn oed os nad ydych yn cwblhau ffurflen dreth mae’n werth adolygu eich ffigyrau treth.  Rhan fwyaf o’r amser bydd eich sefyllfa yn glir, ond mae o hyd posibilrwydd o or-daliad neu dan-daliad o dreth incwm.

Gyda’r bunt yn isel, gwnewch y gorau o’ch arian pan ar wyliau tramor:

trefnwch eich arian gwyliau ymlaen llaw – peidiwch byth a newid arian yn y maes awyr ; talwch mewn arian lleol nid punnoedd : defnyddiwch gerdyn heb gostau tramor fel y Swyddfa Post : byddwch yn wyliadwrus gyda chostau cyfathrebu y tu allan i’r Undeb Ewropaidd.

Gofynnwch i Huw:

Yr wyf eisiau gwerthu ty rhent a oedd yn gartref i mi – beth yw’r sefyllfa Treth ar Eiddo?

Os yn bosibl, gwerthwch cyn 6 Ebrill 2020 gan bod y rheolau yn newid ac yn mynd yn fwy llym o’r dyddiad hynny.  Byddwch yn dal i dderbyn lwfans am y cyfnod yr oedd yr adeilad yn gartref ond mae lwfansau eraill yn cael eu lleihau a byddwch yn talu rhai miloedd yn fwy o dreth os ydych yn gwerthu ar ôl 6 Ebrill 2020.

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17