Datgelodd Banc Lloyds ei bod wedi ffeindio 9,000 o ewyllysiau hen oeddent wedi eu cadw “mewn lle diogel”.  Cafodd sawl ystâd ei weithredu yn anghywir.  Os yw’ch ewyllys gyda banc, sicrhewch ei fod dal yno ac os yn hen ewyllys bydd angen ei adolygu.  Yn gyffredinol gwnewch yn sicr bod eich ysgutorion yn gwybod lleoliad eich ewyllys.

 

Mae scamiau diweddaraf yn cynnwys rhai Royal Mail / Amazon Prime / Visa/ y Swyddfa Dreth.  Peidiwch a rhoi gwybodaeth banc a pheidiwch â gadael i neb cael defnyddio eich cyfrifiadur.

 

Gofynnwch i Huw : Yr wyf yn byw mewn cartref mawr ac yn ystyried lleihau i fyw mewn fflat mewn datblygiad i bobol dros 60.  Sylwadau?

 

: Mae lawer mwy o ddatblygiadau newydd gyda lolfa gymunedol / café / gym.  Mae mwy o gyfleusterau na fflat arferol ond mae rhain yn llawer mwy costus i brynu.

: Bydd eich taliad misol am y cyfleusterau yn llawer uwch.

: Mwy o gostau / rheolau pan mae’r amser yn dod i werthu’r fflat ac mae rhai fflatiau ar hen ddatblygiadau wedi dioddef colledion sylweddol. 

:  Darllenwch yr amodau yn ofalus iawn.  Os yw’r fflat newydd yn gweithio allan i chi, ewch ymlaen, ond gyda’ch llygaid yn hollol agored i’r costau sydd i ddod.

 

 

Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am y golofn anfonwch E Bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu trwy www.huwrobertsaccountant.cymru neu ffoniwch 029 2069 4524.

 

Mae Huw yn gyfrifydd sy’n arbenigo mewn treth incwm, ewyllysiau a gwaith profiant.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17