Cofiwch drafod gyda'ch teulu a'ch ffrindiau sydd â gorddrafftiau banc am y newidiadau sylweddol i ffioedd gorddrafft. Ystyriwch fenthyciad tymor byr i glirio'r gorddrafftiau, os yw'n rhatach.

"Dwi ddim yn ystyried fy hun yn dwpsyn." Dyfyniad gan ddarllenydd yn y Financial Times yn ddiweddar a ddioddefodd sgam. Rydyn ni'n teimlo'n siŵr nad ydych chi, y darllenwyr, yn ystyried eich hun yn dwp ond byddwch yn ymwybodol o sgamiau. Mae'r sgamiau diweddaraf yn cynnwys pobl yn ffonio sy'n honni eu bod o'r Adran Drafnidiaeth ac yn mynnu eich bod wedi bod mewn damwain yn ddiweddar ac hefyd sgamiau Amazon, trwydded teledu, HMRC, ayyb.

Cwestiynau Huw ac Aled:  A allwch egluro'r newidiadau i'r rheolau hysbysu a thalu treth ar eiddo ar gyfer 2020?

 

Bydd y cyfnod y bydd yn rhaid i berchnogion ag enillion trethadwy ar eiddo preswyl ei dalu yn lleihau o 22 mis i 30 diwrnod. O 6 Ebrill 2020, bydd angen cyflwyno ffurflenni treth ar eiddo i HMRC yn brydlon, gyda'r ffurflen treth ar eiddo a'r swm yn daladwy o fewn 30 diwrnod ar ôl cwblhau'r gwerthiant. Mwy o waith sydyn i gyfrifwyr!

 

Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda ni trwy www.huwaledaccountants.com neu ffoniwch 029 2069 4524.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17