Cyngor cyffredinol i’r rhai sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn eu hincwm:

  • Edrychwch yn fanwl ar eich datganiadau banc a dod ag unrhyw ddebyd uniongyrchol (direct debits) di-angen i ben.
  • Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau bod benthycwyr morgais yn caniatau 3 mis o wyliau na fydd yn effeithio ar eich sgôr credyd.  Gan fod canolfannau galw yn brysur ofnadwy mae’n bosib y bydd hi’n anodd i gysylltu â nhw, felly mae’n werth ysgrifennu llythyr at y darparwr morgeisi i esbonio eich sefyllfa a chofiwch gadw copi o’r llythyr.
  • Cadwch mewn cysylltiad gydag unrhyw gredydwyr fel cwmnïau cerdyn credyd/benthygiad ceir PCP, ayyb.

Cymorth i'r cyflogedig:

https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19/covid-19-support-for-businesses

Os ydych yn gyflogedig ac yn ‘furloughed’, bydd HMRC yn ad-dalu 80% o gostau cyflog i weithwyr ‘furloughed’ hyd at uchafswm o £2,500 y mis.  Mae hyn yn ymestyn i unigolion sydd yn gyfarwyddwyr eu cwmniau cyfyngedig eu hunain ac yn defnyddio cynllun PAYE.

Cymorth i’r hunan-gyflogedig:

https://www.gov.uk/government/news/chancellor-gives-support-to-millions-of-self-employed-individuals

  • Grantiau trethadwy o arian parod o 80% o elw ar gael, hyd at £2,500 y mis, am o leiaf 3 mis, ar gyfer y cyfnod Mawrth 2020 - Mai 2020.  Bydd y grant yn cael ei gyfrifo wrth ddefnyddio cyfartaledd elw misol dros y 3 blynedd diwethaf.  Mae’r cynllun yma yn darparu yr un lefel o gymorth ag ar gyfer gweithwyr cyflogedig.
  • Mae’r cynllun ar agor i’r rhai sydd â elw masnachu sy'n llai na £50,000 yn 2018-2019 neu cyfartaledd elw masnach o dan £50,000 o 2016-2017 i 2018-2019.
  • I fod yn gymwys, rhaid bod mwy na hanner eu hincwm yn y cyfnod yma yn dod o waith hunan-gyflogedig. Ni fydd y rhai sy’n derbyn eu hincwm yn bennaf o gyflogaeth ond sydd hefyd â gyrfa hunan-gyflogedig yn gymwys i’r grant yma.

Mesurau eraill:

  • Bydd taliadau TAW yn cael eu gohirio ar ffurflenni yn y cyfnod o 20 Mawrth 2020 – 30 Mehefin 2020.
  • Mae opsiwn i ohirio taliadau treth incwm hunan asesiad sy’n ddyledus ar 31 Gorffennaf 2020 tan 31 Ionawr 2021.
  • Mae yna llinell gymorth HMRC Time to Pay Coronavirus: 0800 015 9559.
  • Mae pecyn o fesuriadau ar gael i gwmnïau mewn meysydd manwerthu, lletygarwch a hamdden – gweler wefan y Llywodraeth am fwy o fanylion.
  • Mae cynllun ‘Business Interruption Loan’ ar gael trwy’r banc i fusnesau bach.

 

Hawlio wrth y Llywodraeth:

  • I’r rhai sydd mewn cyflogaeth, mae Tâl Salwch Statudol i’w hawlio trwy gynllun PAYE eich cyflogwr.
  • Mae cymorth cyflogaeth a chefnogaeth i’r rhai allan o waith ('Employment and Support Allowance') ar gael o tua £90 yr wythnos.  Bydd y rhai sydd â lefel rhesymol o gynilion ddim yn gymwys.   Gellir hawlio ‘Universal Credit’ gweler gwefannau Covid-19 canlynol y Llywodraeth:
    • www.gov.uk/universal-credit
    • www.gov.uk/employment-support-allowance

 

Mae landlordiaid yn gallu gwneud cais am ryddhad wrth eu benthycwyr o dalu morgais ‘buy-to-let’ am 3 mis.

 

Os oes cynlluniau teithio gyda chi sydd wedi cael eu heffeithio gan y coronavirus, gallwch gael ad-daliad rhannol neu lawn o gost y gwyliau.  Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant teithio.

 

Byddwch yn ofalus o sgamiau lle mai twyllwyr yn anfon ebost neu yn ffonio chi adre yn honni eu bod nhw’n galw o HMRC yn cynnig ad-daliad ar eich treth incwm ac yn gofyn am eich manylion banc.  Byddwch yn wyliadwrus.

 

Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda ni trwy www.huwaledaccountants.com neu ffoniwch 029 2069 4524.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17