Mae'r cynllun absenoldeb dros dro (furlough) wedi cael ei ymestyn i fis Hydref, gyda cyflogwyr yn cyfrannu tuag at y taliadau furlough yma o fis Awst ymlaen. Yn ogystal, mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau ail taliad i bobl hunangyflogedig yn mis Awst.

 

Gan bod unigolion yn gallu ennill arian o ffynonellau amrywiol yn ystod y cyfnod clo, cofiwch eich bod yn gallu ennill hyd at £1,000 o ffynonellau gwahanol yn ddi-dreth o dan rheolau lwfans masnachu y Swyddfa Dreth.

 

Mae'r opsiwn i ohirio taliadau morgais wedi ei ymestyn gan fanciau am dri mis ychwanegol. Bydd llog yn parhau i gronni ar unrhyw daliadau a ohiriwch, felly os gallwch fforddio parhau i wneud y taliadau hyn, gallai fod yn synhwyrol i chi wneud hynny.

 

Cawsom alwad wrth cwsmer newydd sy'n byw yn Oman yn ddiweddar. Tra'n ysgrifennu llythyr at y Swyddfa Dreth, gwnaethom wirio os oedd cyfieithiad o enw'r wlad, sef "Sultanate of Oman". Dychmygwch y sioc o weld un cyfeithiad o "swltaniaeth o fenyw"! Mae angen gwirio canlyniadau cyfieithu ar-lein yn ofalus!



Cwestiynau Huw ac Aled

C: Yn ddiweddar, cefais fy niswyddo oherwydd Covid-19 ac rwy'n ystyried cychwyn busnes newydd. Gallwch chi helpu?

A: Yn gyffredinol, rydym yn cynghori pobl i ddechrau masnachu yn hunangyflogedig, oni bai bod eich diwydiant yn mynnu bod yn rhaid i chi weithredu fel cwmni cyfyngedig. Os oes gennych chi incwm cyson ar ôl ychydig fisoedd, gallwn asesu a yw'n fanteisiol i chi weithredu fel cwmni cyfyngedig.

Gallwn gofrestru eich cwmni gyda Thŷ'r Cwmnïau mewn ychydig funudau, yn ogystal â chofrestru'ch cwmni ar gyfer treth gorfforaeth gyda Chyllid a Thollau EM.

Fel rheol gyffredinol, rydym yn argymell bod eich busnes newydd yn cyd-fynd â'ch sgiliau. Gwnewch yr hyn rydych chi'n dda yn ei wneud.

Contact Huw Roberts

Client Testimonials

  • "We will let Huw do his magic with Probate"

    Comment from a partner in a firm of Independent Financial Advisers

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17