Cymraeg
Cyfrifydd ac Ymarferydd Profiant
Newyddion da am fy nghwmni Huw Aled Accountants Ltd. Rydym wedi cael ein cymeradwyo am ein defnydd o'r Gymraeg yn ein Busnes gan Gomisiynydd y Gymraeg.


Huw yn darlledu ar BBC Radio Cymru trwy Facetime o'i swyddfa adref ar effeithiau ariannol coronavirus.
“Lleiafrif yw’n cyfrifydd
Yn brydlon, ffyddlon, llawn ffydd”
Teyrnged gan un o feirdd cadeiriol Cymru.
Ers 1987 mae Huw wedi darparu gwasanaeth yn y Gymraeg ledled Gymru a thu hwnt. Cynigir gwasanaeth profiant ar ôl colli anwylyn, cyngor manwl ar Dreth Etifeddiaeth a threfnu ewyllysiau yn y Gymraeg. Arbenigedd Huw fel cyfrifydd yw materion treth personol gan gynnwys treth ar eiddo.
Gyda dros hanner y cleientiaid yn Gymry Cymraeg, gellir cyfathrebu yn y Gymraeg pan bo modd. Gyda threth incwm mae’r unigolion yn cael eu cofrestru gyda’r Swyddfa Dreth Gymraeg ym Mhorthmadog a gellir anfon ffurflenni Profiant yn yr iaith Gymraeg.
Ar yr ochr gyfreithlon, mae gan Huw gysylltiad gyda chyfreithiwr sydd yn gallu paratoi ewyllys yn y Gymraeg.
Pan oedd Huw gyda S4C yn 1982 fe oedd yn gyfrifol am gyhoeddi cyfrifon cyntaf y sector gyhoeddus yn yr iaith Gymraeg. Ar y pryd nid oedd cyfieithwyr proffesiynol ar gael a rhaid oedd meddwl yn ddwys am dermau technegol Cymraeg am faterion cyllid!

Gelwir ar Huw yn gyson i ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Cymru ar faterion ariannol gan gynnwys diwrnod y Gyllideb, Brexit yn 2016, yr Etholiad Cyffredinol yn 2017 ac ar scams.
Yn ystod 2020 bu Huw yn darlledu yn rheolaidd ar ‘Post Cyntaf’ BBC Radio Cymru ar effeithiau ariannol Covid ac ar gyhoeddiadau’r Canghellor, Rishi Sunak ac ar S4C. Yn 2021 fe ddarledodd Huw ar y Gyllideb ac ar effaith chwyddiant ar yr economi.
Yn 2022 mae Huw wedi darlledu ar gam weinyddu pensiynau'r wlad, costau ynni a pholisïau economaidd y cyn Brif Weinidog Liz Truss ac yn 2023 ar scams a twyllo'r trysorlus.
Yn 2024 bu Huw'n dadansoddu'r newidiadau i Dreth Etifeddiaeth a sut y byddai'n effeithio ffermwyr a busnesau.
"Dim ond nodyn byr i’th ganmol am dy eitem ar Radio Cymru – ardderchog wir! Cyngor clir a phendant a dull hawdd ei ddeall ac i wrando arno – neges oddi wrth un o wrandawyr Radio Cymru."
Mae Huw yn Drysorydd anrhydeddus papur Cymraeg Caerdydd, Y Dinesydd ac yn ysgrifennu colofn fisol o dan y teitl “Gwylio’r Geiniog”.
We will let Huw do his magic with Probate
Huw Roberts possesses the patience of Job and the forensic skills of Sherlock.
Thanks so much for all your hard work. We are all very grateful to you.
Thank you for your efficient work, patience and kindness.
The leadership and expertise you have provided are unequalled in my experience.
Thank you for your kindness.
Rwy'n gwerthfawrogi eich caredigrwydd yn fawr iawn (I greatly appreciate your kindliness)
So many great sportsmen are renowned for being “a safe pair of hands”. In terms of trust and reliability, I cannot conceive of a safer pair of hands than yours.
Huw, I can’t thank you enough for all that you have done over these past few months. A very difficult time for me but I have so much appreciated your calm efficiency, good humour and expertise
Diolch o waelod calon am eich gwaith graenus. (Heartfelt thanks for your fastidious, high quality work.)
I should like to take this opportunity to thank you most sincerely for the great service I have had from you over the last 28 years.
Diolch am dy amynedd, dy gyngor a’r holl gymorth. (Thank you for your patience, advice and for all of your support.)
I wanted to thank you on behalf of both myself and my sister for your kind professionalism that has helped through a very difficult phase of life in losing both parents, within months of each other.
Encore une fois, tous mes remerciements pour votre travail, efficacité et grande patience... (Once again, all my thanks for your work, efficiency and great patience...)
Thanks you very much for the work that you have undertaken, which I really value and appreciate.
May I thank you for your attention and the sensitivity you expressed.